Mae WNO yn credu bod opera yn gelfyddyd sy’n werthfawr, yn berthnasol ac yn unigryw – yn cynnig adloniant ac ysbrydoliaeth at ein cynulleidfaoedd yn ein operâu a’n cyngherddau neu drwy ein darpariaeth ddigidol, ac yn cynnig profiadau trawsnewidiol wrth ein gwaith teuluol a chymunedol.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn trawsffurfio bywydau drwy bŵer opera. Rydym yn frwd dros opera ac eisiau rhannu’r brwdfrydedd hwn gyda chymaint â phosibl o bobl. Rydym yn gwneud hyn gyda pherfformiadau gwobredig o operâu ar lwyfannau cyflawn, sy’n cyfuno synnwyr o antur â’r ansawdd uchaf posibl. Rydym yn cadw ein perfformiadau o fewn cyrraedd drwy brisiau tocynnau fforddiadwy. Y tu hwnt i’r theatr, rydym yn cysylltu â phobl drwy ein gwaith ieuenctid a chymunedol, a thrwy brosiectau digidol.
Gwefan
Cyfeiriad E-bost
Cyfeiriad
Wales Millennium Centre, Bute Place, Cardiff Bay, CF10 5AL