Mae Casnewydd Fyw yn darparu gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd i gefnogi iechyd a lles pobl o’r ddinas a’r tu hwnt a'u hysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach.
Casnewydd Fyw yw’r dewis cyntaf ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd. Mae gennym nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd, chwaraeon, perfformiadau byw a gweithgareddau diwylliannol ar gynnig.
Mae gennym nifer o gampfeydd, pedwar pwll nofio, canolfan tenis yn ogystal ag ystod eang o gyfleusterau chwaraeon eraill. Ochr yn ochr â’r rhain, mae Canolfan Glan yr Afon, canolfan theatr a chelf ranbarthol hirsefydlog yn cynnig amrywiaeth o berfformiadau byw, dangosiadau a gweithdai.
Beth bynnag eich oedran, eich rhyw, eich nodau neu’ch gallu, mae Casnewydd Fyw am i chi fod yn hapusach ac yn iachach. Rydym ni yma i'ch cefnogi a'ch ysgogi i gyflawni eich nodau iechyd a lles.
Mae Tîm Datblygu Chwaraeon a Chelfyddydau Casnewydd Fyw yn cynnig rhaglenni chwaraeon o safon uchel ledled dinas Casnewydd a’r tu hwnt, i ysgolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol eraill.
Rydym yn fenter gymdeithasol ac yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig, mae’r arian rydym yn ei ennill yn mynd yn ôl i'r gwasanaethau a'r cyfleusterau rydym yn eu cynnig – felly mae cwsmeriaid Casnewydd Fyw yn ein helpu i gefnogi ein cymuned leol.
Gwefan
Cyfeiriad E-bost
Rhif ffôn
Cyfeiriad
Pool & Tennis Centre, Newport International Sport Village, NEWPORT, NP19 4RA