Mae Hwb Cymunedol Casnewydd yn gartref i amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid lleol sy'n rhan o Hwb y Celfyddydau a Hwb Chwaraeon a Lles.
Bydd y categorïau isod yn eich helpu i ddarganfod amrywiaeth o adnoddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol a fydd yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, ac amrywiaeth o adnoddau chwaraeon a lles i helpu i ysbrydoli ffordd hapusach ac iachach o fyw.
Canolfan theatr a chelfyddydau fywiog wedi'i leoli yng nghanol Dinas Casnewydd sy'n dod â chynifer o bobl â phosibl i gysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, gyda pherfformiadau proffesiynol, dangosiadau ffilm a gweithdai.
Glan yr Afon yw’r unig ganolfan theatr a chelfyddydol gyflwynol broffesiynol yng Nghasnewydd ac mae ganddi ddau le theatr, oriel gelf, stiwdio ddawns, stiwdio recordio, ystafelloedd gweithdy, ystafell gynadledda a chaffi trwyddedig.
Archwiliwch amrywiaeth o adnoddau chwaraeon a lles a fydd yn ysbrydoli ffordd hapusach ac iachach o fyw. Bydd yr adnoddau hyn a ddarperir gan bartneriaid a sefydliadau lleol yn helpu i gefnogi eich lles meddyliol a chorfforol.
Archwiliwch amrywiaeth o adnoddau celfyddydol, diwylliannol a chreadigol gan bartneriaid a sefydliadau lleol a fydd yn eich helpu i gadw mewn cysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd, gwella lles meddyliol a darparu hwyl a mwynhad.
Ydych chi'n unigolyn neu'n sefydliad sy'n gweithio yn y sectorau Celfyddydau, Chwaraeon neu Les yng Nghasnewydd neu'r cyffiniau? Ymunwch â Hwb Cymunedol Casnewydd.
Cofrestrwch nawrUpdate your browser to view this website correctly. Update my browser now